Mae economeg Morglawdd Afon Hafren yn wallus. Y Morglawdd fydd y ffurf fwyaf costus ar ynni adnewyddadwy – yn fwy costus na ffermydd gwynt ar y môr hyd yn oed. Bydd y Morglawdd yn cynhyrchu pŵer am 23% o bob diwrnod yn unig.
Gan fod yr ynni a gynhyrchir yn dibynnu ar symudiad y llanwau, bydd cynhyrchiant ynni ar ei uchaf yn aml pan na fydd llawer o alw, a bydd hyn yn achosi anrhefn i gyflenwadau pŵer cyfredol. Yn ôl adroddiad diweddar gan y Fforwm Ynni Adnewyddadwy:
“O’r holl wahanol dechnolegau yr ymchwiliwyd iddynt, cynnig Morglawdd Afon Hafren yw’r un â’r costau cyfalaf uchaf”. “… mae costau cynhyrchu ynni Morglawdd Afon Hafren yn sylweddol uwch na chostau ffynonellau cynhyrchu eraill (glo, nwy, gwynt ar y tir, gwynt ar y môr a niwclear)”.
Daeth astudiaeth ddiweddar gan Frontier Economics a gomisiynwyd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a WWF, ymhlith eraill, i’r casgliad:
“…mae morglawdd mawr ar afon Hafren yn ddrud o’i gymharu â ffyrdd eraill o gynhyrchu trydan adnewyddadwy; ac mae’n ymddangos bod yna ddigon o gymhwysedd i ddefnyddio technolegau eraill i fodloni… targedau’r Llywodraeth”. |