Rhoi stop ar unrhyw forglawdd arfaethedig ar draws Aber Afon Hafren.
Mae’r Llywodraeth wedi cynnig adeiladu Morglawdd ar draws Aber Afon Hafren i gynhyrchu trydan gan ddefnyddio technoleg amhrofedig. Rydym yn cydnabod yr angen i fforio a datblygu ffurfiau mwy cynaliadwy ar ynni, ond ni all hyn fod ar draul amgylchedd unigryw afon Hafren, na ffyniant economaidd y rhanbarth.
Lleisiwch eich barn a llofnodi’r ddeiseb hon. Mae’n rhaid i ni atal y Llywodraeth rhag bwrw ymlaen â chynnig am Forglawdd nad yw’n adnewyddadwy, yn effeithlon, yn gost-effeithiol nac yn amgylcheddol gynaliadwy.
Gyda’n gilydd, gallwn Roi stop ar y Morglawdd NAWR.
I Ed Miliband, Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid yn yr Hinsawdd:
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddiystyru unrhyw Forglawdd ar draws afon Hafren wrth iddi ystyried ffyrdd o harneisio pŵer yr aber i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Rhaid i’r rhestr fer o gynigion, sydd i’w chwblhau ym mis Tachwedd, beidio â chynnwys unrhyw ffurf ar Forglawdd.
Byddai unrhyw Forglawdd yn ddinistriol i amgylchedd yr aber, yn enwedig ei bywyd gwyllt a’i hadar. Hefyd, byddai Morglawdd yn costio o leiaf £20 biliwn, a byddai bron yn ddiamau yn fwrn arall ar y trethdalwr. Rydym yn credu bod yna ffyrdd gwell a rhatach o lawer o harneisio ynni llanw afon Hafren heb niweidio’r aber. Mae’r newid dramatig hwnnw i fynediad morwrol yn peryglu miloedd o swyddi yn y diwydiannau porthladdoedd a morgludo, a bydd yn lladd twf economaidd yn y rhanbarth.
Llofnodwch y Ddeiseb yma
yma
|